SL(5)352 – Canllawiau statudol ar gyfer comisiynu gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru

Cefndir a Phwrpas

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â chomisiynu gwasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (“VAWDASV”) a gwasanaethau cysylltiedig gan awdurdodau perthnasol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).  Diffinnir awdurdodau perthnasol fel awdurdodau lleol, awdurdodau tân ac achub, byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG.  Bydd y canllawiau'n dod yn statudol o 1 Ebrill 2019 ac yn cael eu cyhoeddi o dan adran 15 o’r Ddeddf (‘pŵer i gyhoeddi canllawiau statudol’).

I sicrhau proses gydgysylltiedig a chydweithredol, bwriedir i'r canllawiau helpu i gomisiynu gwasanaethau eraill cysylltiedig gan gomisiynwyr o'r awdurdodau perthnasol, adrannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a'r system cyfiawnder troseddol sy'n ceisio cyflawni dibenion y Ddeddf.  I’r graddau hynny fe'u cyhoeddir o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Gweithdrefn

Mae’r weithdrefn ar gyfer dyroddi canllawiau wedi’i nodi yn adran 16 o’r Ddeddf.  Rhaid gosod drafft o’r canllawiau gerbron y Cynulliad.  Os, o fewn 40 diwrnod (heb gynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) o osod y drafft, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r canllawiau.

Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r canllawiau ar ffurf y drafft.

Craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r canllawiau hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r canllawiau hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

28 Chwefror 2019